SL(6)537 – Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) yn darparu bod rhaid i unigolion penodol sy’n rhoi triniaethau arbennig (fel y’u rhestrir yn adran 57 o’r Ddeddf) yng Nghymru gael eu trwyddedu gan awdurdod lleol. Mae’r triniaethau arbennig hynny fel a ganlyn:

·         aciwbigo,

·         tyllu’r corff,

·         electrolysis,

·         tatŵio.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau triniaeth arbennig gan gynnwys y meini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i gais am drwydded triniaeth arbennig gael ei ganiatáu. Mae Rhan 2 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys ffurflen gais, a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys trwydded triniaeth arbennig (fel y’i nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn).

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau trwyddedu mandadol sy’n gymwys i drwydded triniaeth arbennig (fel y’u nodir yn Atodlenni 3 i 7 i’r Rheoliadau).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau triniaeth arbennig.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 9 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’n ymddangos bod geiriau ar goll o reoliad 4(1):

Mae’r meini prawf trwyddedu y mae rhaid i unigolyn (“ceisydd”) am drwydded triniaeth arbennig eu bodloni er mwyn caniatáu’r cais wedi eu nodi ym mharagraffau (2) i (4).

Mae adran 62(1) o’r Ddeddf yn nodi “Rhaid i reoliadau nodi meini prawf y mae rhaid eu bodloni ar gais gan unigolyn (“ceisydd”) am drwydded triniaeth arbennig…” (pwyslais wedi'i ychwanegu).

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Rydym yn cwestiynu a ddylai’r cyfeiriad yn rheoliad 9(2) fod at adran 76(3) o’r Ddeddf, yn hytrach nag adran 76(4) o’r Ddeddf. Mae Adran 76(3) yn cyfeirio at yr awdurdod lleol yn dyfarnu swm y ffi cydymffurfio a godir, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, sy’n nodi ffurf y cais am drwydded triniaeth arbennig, mae cwestiwn 1.2 yn gofyn pryd y mae’r ceisydd am i’r drwydded triniaeth arbennig ddechrau, gyda ‘cyn gynted â phosibl’ yn opsiwn. Mae rheoliad 3(3) yn nodi, yn achos trwydded dros dro, fod rhaid gwneud cais o leiaf 28 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad dechrau arfaethedig ar gyfer y drwydded dros dro, y gallai fod wedi bod yn ddefnyddiol cynnwys yr wybodaeth hon ar y ffurflen gais neu mewn nodyn cyfarwyddyd.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, mae Nodyn Cyfarwyddyd 1 yn nodi:

(b)   os yw’r ceisydd yn credu bod y driniaeth arbennig yn debygol o gael ei chyflawni gan y ceisydd yn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, mae cais i’w wneud i un o’r awdurdodau lleol hynny.

Nid yw’n glir a yw’n ofynnol i’r ceisydd nodi enwau’r holl awdurdodau y mae’n disgwyl rhoi’r driniaeth arbennig yn eu hardaloedd ar y ffurflen gais.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, mae Nodyn Cyfarwyddyd 5 yn cynghori ceiswyr i droi at y canllawiau anstatudol os nad ydynt yn siŵr ar ba “sail” y maent yn rhoi triniaethau arbennig. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gadarnhau at ba ganllawiau y mae’n cyfeirio. Byddai’n fwy o gymorth i geiswyr pe bai'r canllawiau'n cael eu henwi.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae'n ofynnol i geiswyr ddatgelu euogfarnau heb eu disbyddu am “droseddau perthnasol” mewn cais am drwydded triniaeth arbennig. Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, mae Nodyn Cyfarwyddyd 8 “Euogfarnau am droseddau perthnasol” yn datgan bod yr hyn a ystyrir yn drosedd berthnasol wedi’i nodi yn adran 66 o’r Ddeddf. O ystyried pwysigrwydd y wybodaeth hon, pam nad yw'r troseddau perthnasol wedi'u nodi yn y nodiadau cyfarwyddyd? Byddai nodi'r troseddau perthnasol yn y nodiadau cyfarwyddyd yn fwy o gymorth i geisydd sydd wrthi’n llenwi'r ffurflen gais.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 2(4) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn nodi -

Mewn achos pan fo’r drwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud cais, o fewn cyfnod rhesymol, i gael un newydd yn ei lle oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.

Beth fyddai'n cael ei ystyried yn gyfnod rhesymol? Byddai pennu cyfnod penodol o amser ar gyfer cael un newydd yn ei le, neu roi arweiniad ar yr hyn a ystyrir yn gyfnod rhesymol, yn rhoi mwy o eglurder i ddeiliad y drwydded.

8.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae paragraff 4(2) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gadw a chynnal cofrestr o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig gan ddeiliad y drwydded. Yn unol â pharagraff 4(3), rhaid i ddeiliad y drwydded hefyd gofnodi digwyddiadau o’r fath. A yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod drafftio’r amod mandadol hwn yn ddigon clir, ac a fyddai deiliad y drwydded yn gallu nodi beth fyddai’n gyfystyr â ‘digwyddiad’ ac yn gwybod sut i gofrestru digwyddiad o’r fath?

9.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae Atodlenni 3 i 7 i’r Rheoliadau yn nodi’r amodau trwyddedu mandadol sydd i fod yn gymwys i drwyddedau triniaeth arbennig at ddibenion adran 63 o’r Ddeddf. Rhaid i’r amodau trwyddedu mandadol hyn fod “ar gael yn rhwydd ar gais” gan gleient.

Nodwn fod diffiniadau wedi’u cynnwys yn yr Atodlenni, ond nid yw llawer o’r diffiniadau hyn yn cynorthwyo’r darllenydd i ddeall yr amodau trwyddedu mandadol, gan eu bod yn cyfeirio at adrannau o’r Ddeddf yn unig. Mae cynnwys y diffiniadau ar ddiwedd yr Atodlenni hefyd yn rhwystro eu hygyrchedd.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

10. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Rheoliad 4(2) yn nodi’r meini prawf trwyddedu y mae rhaid eu bodloni gan geisydd ar gyfer trwydded triniaeth arbennig er mwyn i’r cais gael ei ganiatáu. Mae'r meini prawf yn cynnwys darparu tystiolaeth o wiriad cofnod troseddol.

Mae’r ffurflen gais ar gyfer trwydded triniaeth arbennig, fel y nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau, yn gofyn yn 2.12 a yw’r ceisydd yn gymwys i gael tystysgrif datgeliad sylfaenol a ddyroddwyd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, tystysgrif cofnod troseddol dramor, neu’r ddau. Mae hefyd yn ofynnol i'r ceisydd dicio blwch yn cadarnhau hynny: “Mae tystiolaeth o dystysgrif datgeliad sylfaenol/tystysgrif cofnod troseddol dramor wedi ei hamgáu”.

Mae Nodyn Cyfarwyddyd 8 ar y ffurflen gais yn nodi y bydd tystysgrif datgeliad sylfaenol yn dangos euogfarnau heb eu disbyddu a rhybuddiadau amodol ceisydd.

Teitl Rhan 4 y ffurflen gais yw “Euogfarnau am droseddau perthnasol” pan fo’n ofynnol i geisydd ddatgan a oes ganddo euogfarn heb ei disbyddu am drosedd berthnasol a darparu gwybodaeth am unrhyw droseddau perthnasol. Diffinnir trosedd berthnasol yn adran 66(8) o’r Ddeddf fel:

(a) trosedd o dan y Rhan hon neu o dan Ran 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff);

(b) trosedd (pa un ai o dan gyfraith Cymru a Lloegr neu rywle arall) sydd)—

(i) yn ymwneud â thrais,

(ii) o natur rywiol, neu sy'n ymwneud â deunydd neu ddelweddau rhywiol,

(iii) yn golygu tatŵio plentyn o dan 18 oed,

(iv) yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, neu

(v) yn golygu methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cynllun ar gyfer trwyddedu neu fel arall ganiatáu neu reoleiddio cyflawni gweithgaredd sy’n driniaeth arbennig at ddibenion y Ddeddf hon.

O dan adran 66 o’r Ddeddf, pan fo ceisydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, rhaid i awdurdod lleol benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd i roi triniaeth y mae’r cais yn ymwneud â hi i’r graddau y byddai’n amhriodol dyroddi'r drwydded mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth honno.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio pam mae’n ystyried ei gwneud yn ofynnol i geiswyr am drwydded triniaeth arbennig gyflwyno gwiriad cofnod troseddol (a fyddai’n dangos euogfarnau heb eu disbyddu a rhybuddiadau amodol ceisydd, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn droseddau perthnasol) ac a yw’n ddull cymesur o gadarnhau a oes gan geisydd euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol. A ystyriwyd unrhyw ddulliau amgen o gadarnhau a oes gan geisydd euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol?

11. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Gosodwyd y Rheoliadau i ddechrau ar 17 Medi ac fe'u hystyriwyd gan y Pwyllgor hwn ar 30 Medi. Cafodd y Rheoliadau cychwynnol eu tynnu’n ôl a’u disodli wedi hynny gan y Rheoliadau hyn, a osodwyd ar 15 Hydref.

Roedd angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i 18 o'r pwyntiau adrodd a godwyd yn yr adroddiad ar y Rheoliadau cychwynnol, fodd bynnag nid oes ymateb wedi dod i law ar ddyddiad yr adroddiad hwn. Mae’n bosibl y byddai’r adroddiad cychwynnol hwnnw wedi mynd i’r afael â nifer o bwyntiau a godwyd yn yr adroddiad hwn. Byddai hefyd wedi bod yn ddefnyddiol cael cadarnhad o'r newidiadau a wnaed i'r Rheoliadau. Pam na chafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru?

At hynny, ysgrifennodd y Pwyllgor hwn at y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd mewn llythyr dyddiedig 15 Mawrth 2024sy'n nodi:

Byddwch yn gwybod bod pob memoranda esboniadol sy’n cyd-fynd ag is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd yn cynnwys adran – adran 2 – a ddefnyddir i dynnu sylw at faterion a allai fod o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Pe bai offeryn yn cael ei osod gerbron y Senedd sy’n cywiro offeryn y craffwyd arno’n flaenorol, byddai’n ddefnyddiol inni pe bai modd nodi’r wybodaeth berthnasol yn adran 2, gan gynnwys rhif cyfeirnod yr offeryn a throednodyn i’n hadroddiad.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys y wybodaeth hon.

12. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017. Disgwylir i'r Rheoliadau hyn, os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd, ddod i rym ar 29 Tachwedd 2024. Mae hyn yn golygu y bydd cyfnod o fwy na 7 mlynedd wedi mynd heibio erbyn i’r rheolau newydd ar driniaethau arbennig gael eu gweithredu.

Codwyd hyn hefyd ym mhwynt 8 o adroddiad ar Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 y Pwyllgor hwn. Rydym yn nodi'r canlynol o ymateb Llywodraeth Cymrui'r adroddiad hwnnw:

Dechreuodd y gwaith o weithredu Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn syth ar ôl pasio’r Ddeddf ym mis Gorffennaf 2017. Daeth Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff) o Ddeddf 2017 i rym ym mis Chwefror 2018, gan ei gwneud yn drosedd rhoi, neu wneud trefniadau i roi, twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc sydd o dan 18 oed yng Nghymru, os yw’r tyllu hwnnw’n ymwneud â gemwaith neu’n defnyddio gemwaith. Roedd Deddf 2017 yn caniatáu estyn cwmpas y drosedd, drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, er mwyn cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio ‘gwrthrychau’ neu gan ymwneud â hwy. Gyda hyn yn flaenoriaeth, cynhaliodd y Llywodraeth ymgynghoriad ar ei chynigion i estyn cwmpas yr amddiffyniadau, aeth ati i lunio canllawiau ar gyfer ymarferwyr a rheoleiddwyr yn ogystal ag ar gyfer pobl ifanc, a chynhaliodd ymgyrch gyhoeddusrwydd i roi gwybod i ymarferwyr, cleientiaid a rheoleiddwyr am y gwaharddiadau newydd. Yn dilyn hynny, cafodd Rheoliadau eu gwneud ym mis Gorffennaf 2019.

“Yn ystod hydref 2019, dechreuodd y gwaith paratoi i lunio cynigion ar gyfer y cynllun trwyddedu mandadol a nodir yn Rhan 4 o Ddeddf 2017 ac Atodlen 3 iddi. Oherwydd yr ymateb i bandemig Covid, fodd bynnag, cafodd y gwaith ar y cynigion ei oedi, gan ailddechrau yn ystod haf 2022. Ers hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar egwyddorion y cynllun trwyddedu arfaethedig gan arwain at nifer sylweddol o ymatebion dadlennol gan ystod o unigolion, busnesau a chyrff yn cynrychioli’r holl driniaethau arbennig. Bu’r rhain yn sail i’r gwaith o ddrafftio pum set gymhleth a rhyng-gysylltiedig o Reoliadau, a chynhaliwyd ymgynghoriad ar y rhain yn gynharach eleni.

Wrth fynd ati rydym wedi sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n gadarn ac yn effeithiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, busnesau a rhanddeiliaid o’r diwydiant, ynglŷn â gofynion y cynllun. Mae hyn wedi cymryd amser, ond mae wedi sicrhau y deellir y fframwaith rheoleiddiol ac y gellir ei roi ar waith yn effeithiol, gan amddiffyn a diogelu yn ôl bwriad Deddf 2017.”

 

13. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Rydym yn nodi’r dyfyniadau canlynol o’r Memorandwm Esboniadol ynghylch yr ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â’r Rheoliadau:

5.2. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar egwyddorion y cynllun trwyddedu triniaeth arbennig (y cyfeirir ato yma fel yr ‘ymgynghoriad cyntaf’) er mwyn llywio Rheoliadau drafft a fyddai’n galluogi cychwyn darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf ac Atodlen 3 iddi. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad 12 wythnos hwnnw rhwng 25 Ionawr a 19 Ebrill 2023 ac roedd y fersiwn ddrafft o’r RIA yn rhan o’r deunyddiau ymgynghori ynghyd ag Asesiad Effaith Integredig. […]

5.9. Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach (y cyfeirir ato wedi hyn fel yr ‘ail ymgynghoriad’) am wyth wythnos rhwng 12 Chwefror ac 8 Ebrill 2024 ac yn dilyn yr ymgynghoriad cyntaf y cyfeirir ato uchod[…]

5.10. Gan fod ymgynghoriad wedi bod eisoes ar y cynigion polisi ar gyfer y cynllun trwyddedu mandadol, bernid mai ymgynghoriad technegol oedd yr ail ymgynghoriad hwn a hynny yn benodol ar eiriad y Rheoliadau drafft a’r Canllawiau Statudol drafft, er bod y Rheoliadau drafft yn rhoi manylion pellach am y cynllun newydd, gan gynnwys y pynciau hynny lle’r oedd y ddyletswydd statudol i ymgynghori o dan adran 64 o’r Ddeddf yn gymwys. I’r perwyl hwn, rhoddodd y Gweinidog [sic] Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei chydsyniad i’r ymgynghoriad redeg am wyth wythnos yn lle’r cyfnod safonol o 12 wythnos.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru i bwyntiau adrodd 1 i 11.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

24 Hydref 2024